Arlunwyrold

Arlunwyr

Mark Warner.

Posted on 20/11/2019

BYWGRAFFIAD Rwy’n arlunydd gweithredol ac yn diwtor arlunio awyr agored. Cefais fagwraeth ar arfordir hardd Gorllewin Cymru. Mae braslunio wrth wraidd fy ngwaith. Mae hyn yn rhan annatod o ddatblygiad darn ac yn wir ar adegau, yn rhan o’r paentiad ei hun. Rwy’n parhau i dynnu ysbrydoliaeth o’r tirwedd, er y gall y pwnc a’r cymhwysiad ar brydiau fod yn wahanol iawn. Rwy’n hoff o ddefnyddio lliw a llinell wrth ddehongli’r golau, a sut dywydd ydyw, a chariad at yRead More

Marian Brosschot.

Posted on 20/11/2019

BYWGRAFFIAD Artist o Lŷn ydw i. Rwy’n ymddiddori mewn gwaith tecstilau a lluniadu du a gwyn gan fwyaf. Rwyf wedi arddangos gwaith ym Mhlas Glyn y Weddw, Llanbedrog ac yn Oriel Tonnau, Pwllheli. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel tiwtor Cymraeg ym Mhwllheli. Mae enwau llefydd a theithio yn bwysig i mi ac rwy’n hoff o ddogfennu hyn drwy fy ngwaith celf gan ffurfio mapiau o eiriau. Gwneuthum lun o enwau llefydd yn ardal Aberystwyth pan oeddwn yn astudioRead More

Marian Hâf.

Posted on 20/11/2019

BYWGRAFFIAD Graddiais mewn Paentio Celfyddyd Gain o Brifysgol Swydd Gaerloyw, Cheltenham yn 2004, ond rwyf bellach wedi setlo yn ôl gartref yng Ngorllewin Cymru er mwyn magu fy nheulu. Dechreuais wneud printiadau gyntaf yn 2011 pan ymunais â fy ngrŵp print lleol ‘Printers in the Sticks’. Wrth i’m plant dyfu rwy’n dod o hyd i fwy o amser i ddatblygu fy nghrefft ac rwyf wedi bod yn ffodus i arddangos ledled Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yn aml maeRead More

Lilwen Lewis.

Posted on 20/11/2019

BYWGRAFFIAD Cefais fy ngeni yng Ngheinewydd ar arfordir Bae Aberteifi, a bumyn ddigon ffodus i fynd i Goleg Celf yn ifanc iawn, yn gyntaf i Ysgol Gelf Caerfyrddin ac yna i Ysgol Gelf Abertawe i astudio Paentio a Gwydr Lliw. Oddi yno euthum i Goleg Celf Caerdydd a derbyn gradd gan Brifysgol Caerdydd. Treuliais bum mlynedd yn dysgu Celf a Chrefft yn Ysgol Uwchradd San Clêr Roedd yn ysbrydoledig gweithio gyda’r disgyblion a gweld byd celf trwy eu llygaid  hwy.Read More

Ken Bridges.

Posted on 20/11/2019

BYWGRAFFIAD Rwy’n arlunydd gweithredol sy’n byw yng Ngogledd Cymru lle rwyf wedi bod yn gweithio ac yn arddangos am y pymtheng mlynedd diwethaf. Tirluniau neu forluniau yw fy mhrif ddiddordebau. Rwy’n gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau: y prif un yw paent olew. Rwy’n mwynhau ei ddwyster lliw a rhinweddau tebyg i fastig sy’n fy ngalluogi i gymhwyso’r paent i’r wyneb paentio gyda brwsh, cyllell, bysedd, neu ba bynnag offeryn sy’n ymddangos yn briodol i gyflawni effaith ddymunol. Rwyf hefyd ynRead More

Keith Bowen.

Posted on 19/11/2019

BYWGRAFFIAD Medal Aur Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru am Gelf Gain 1986. Gwobrau Portread Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain 1982 a 1986. Gwobrau Portread Cymru 2006 a 2008. Arddangosfeydd Unigol Dethol: Academi Frenhinol Cambrian 2005 a 2010. Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2005. Oriel Tegfryn, Porthaethwy 1992, 2013, 2017. Llyfrau: Snowdon Shepherd 1991 (rhifyn newydd 2009). Among the Amish 1996 / Ivver Sen 2008. Stampiau’r Post Brenhinol: Beibl Cymru 1988, Wintertime 1992.

Karen Pearce.

Posted on 19/11/2019

BYWGRAFFIAD Rwy’n arlunydd o Aberystwyth sydd wedi arddangos fy ngwaith yn eang yng Nghymru a Lloegr ers 1987. Sefydlais enw i mi fy hun yn gynnar yn fy ngyrfa, wrth gyhoeddi a dosbarthu fy ngwaith blodeuog lled-haniaethol ledled y byd, mewn posteri ar gyfer The Art Group, Ikea a Habitat yn y 1990au. Ymgymerais â hyfforddiant celf ffurfiol ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1998, gan gwblhau BA (Anrhydedd dosbarth 1af) ac MA mewn Celf Gain (2003). Rwyf wedi cael fy nghynrychioli’nRead More

John Rowlands.

Posted on 19/11/2019

BYWGRAFFIAD Rwy’n enedigol o Lanrhystud, Ceredigion, ac astudiais gelf yng Nghaerdydd, Bryste a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Bum yn athro Celf yn Buxton, Ystradgynlais ac Aberystwyth cyn gweithio fel Swyddog Addysg Celf yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Enillais Goron Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid ym 1986. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o fy eiddo gan Y Lolfa – ANNWYL ARHOLWR ac ABER. Rwy’n byw yn Nhremadog, Gwynedd. Datblygodd fy ngwaith o seiliau tirluniol, lled-haniaethol i ddelweddau haniaethol gweadol pur. Rwyf wedi arddangos yn eang yng NghymruRead More

Jan Gay.

Posted on 19/11/2019

BYWGRAFFIAD Mae fy ysbrydoliaeth i baentio yn aml wedi cychwyn yng Nghymru. Roedd ‘Snowdon Horseshoe’ yn baentiad a ddatblygais o fraslun un prynhawn cymylog iawn, ychydig cyn i ddilyw gychwyn!  Ac yn wir ‘View from Grace’s window’ oedd golygfa hyfryd fy merch o bier Aberystwyth! Mae hi’n ddigon ffodus i fyw yn Aberystwyth a hi â’m cyflwynodd  i Oriel y Bont. Ar hyn o bryd rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu rhai paentiadau o aber yr afon Mawddach. Rwyf bob amserRead More

Ian Phillips.

Posted on 19/11/2019

BYWGRAFFIAD Mae fy mhroses argraffu heddiw yn cychwyn, fel y mae bob tro, gyda thaith gerdded a llyfr braslunio. Byddaf yn dilyn llwybrau unig dros fryniau gweigion, trwy draciau coedwigoedd troellog, neu ar hyd llwybrau ar ochr clogwyni, yn chwilio am liw, patrwm a gweadedd. Rwy’n edrych am gyfansoddiadau cwbl gyflawn yn y dirwedd. Y cyfan sy’n rhaid i mi ei wneud yw dod o hyd i’r lle iawn i sefyll, y cyfeiriad cywir i edrych iddo a dechrau darlunio.Read More