Arlunwyrold

Arlunwyr

Thomas Haskett.

Posted on 29/12/2019

BYWGRAFFIAD Cefais fy ngeni yng Nghaint, ac astudiais yng Ngholeg Celf Canterbury, ac yna yn Ysgol Gelf Falmouth. Yn gynnar yn fy ngyrfa bûm yn gweithio fel darlunydd yng Nghernyw cyn sefydlu fy hun fel paentiwr yn Sir Benfro bron i ddegawd yn ôl. Er gweithio i ddechrau mewn dyfrliwiau ac inciau, rwyf bellach yn gweithio yn bennaf gydag olew. Fy mhrif amcan yw cofnodi gwahanol rinweddau ac amrywiaethau golau ar hyd arfordiroedd, bryniau a mynyddoedd Cymru, a thrwy hynnyRead More

Simon Jones.

Posted on 29/12/2019

BYWGRAFFIAD Cefais fy ngeni yn Llandeilo a chyfunais gefndir mewn pensaernïaeth (BA, AADip) â chefndir paentiwr tirwedd. Rwyf wedi arddangos yn Orielau The Waterman, New Academy a Mall yn Llundain; yn bensaernïol rwyf wedi gweithio mewn swyddfeydd yn Llundain a Sydney. Am y pum mlynedd ar hugain diwethaf rwyf wedi bod yn darlunio prosiectau pensaernïol mawr yn ogystal â chwblhau comisiynau dyfrlliw ar gyfer cleientiaid proffil uchel. Cyhoeddir fy ngwaith mewn amryw o gyhoeddiadau ac rwy’n fwyaf adnabyddus am fyRead More

Sian McGill.

Posted on 29/12/2019

BYWGRAFFIAD Cefais fy ngeni ar Ddydd Gwyl Dewi 1973 ym Mhont-y-pŵl. Ar ôl ennill gradd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, dychwelais at gariad plentyndod, sef celf,  a’i ddilyn,  ochr yn ochr â magu teulu ifanc. Buan iawn y daeth paentio yn angerdd, ac mae bellach wedi dod yn waith amser llawn. Rwy’n arddangos yn rheolaidd mewn orielau yng Nghymru a Chernyw, ac rwyf wedi cael gwaith wedi’i ddewis ar gyfer  Academi Frenhinol Cambrian. Daw llawer o’m hysbrydoliaeth yn uniongyrchol o’mRead More

Sarah Jones.

Posted on 29/12/2019

BYWGRAFFIAD Rwyf wedi bod yn creu celf am ymron i ugain mlynedd ers symud i Gymru. Mae amgylchedd a thirwedd newidiol Cymru yn ffynhonnell ysbrydoliaeth gyson ar gyfer fy nghelf, ac rwy’n cael fy nenu yn arbennig at goed a pha mor wahanol maent yn edrych yn y pedwar tymor trwy gydol y flwyddyn. Rwy’n mwynhau braslunio mewn inc a dyfrlliw pan fyddaf ar leoliad ac yna creu paentiad gan ddefnyddio acrylig a thechnegau cyfrwng cymysg.

Ruth Jên.

Posted on 29/12/2019

BYWGRAFFIAD Fe’m ganed yn Aberystwyth ym 1964, a’m magu ym mhentref cyfagos Cefnllwyd. Astudiais yng Ngholegau Caerfyrddin a Chaerdydd lle graddiais mewn Celfyddyd Gain gan arbenigo mewn argraffu. Er mai printio yw fy mhrif weithgarwch, rwyf wedi ehangu fy sgiliau i gynnwys dylunio, darlunio, murluniau ac addysg ran-amser. Yn 2015 cwblheais gwrs ôl-radd mewn Celfyddyd Gain yn yr Ysgol Gelf, Prifysgol Cymru Aberystwyth

Pete Monaghan.

Posted on 29/12/2019

BYWGRAFFIAD Rwy’n arlunydd cyfoes sy’n gweithio o stiwdios yn yr Hen Goleg Aberystwyth a hefyd yn  Swabia Uchaf, de’r Almaen. Rydw i wedi f’ysbrydoli gan bensaernïaeth werinol y Cyrion Celtaidd ac yn hoff o ddefnyddio egni arbennig mannau. O frasluniau cychwynnol yn yr awyr agored, rwy’n mireinio ac yn ail-weithio delweddau yn y stiwdio, gan greu gwaith sy’n llawn egni a thensiwn. Mae’n dathlu harddwch ac urddas adeiladau gwerinol. Rwy’n mwynhau gludo gwrthrychau bob dydd yn fy mhaentiadau; yn amlRead More

Joanna Jones.

Posted on 28/12/2019

BYWGRAFFIAD Un o Lansamlet, Abertawe ydw i yn wreiddiol. Derbyniais fy addysg yn Ysgol Lônlas ac Ysgol Gyfun Ystalyfera, cyn mynd ymlaen i astudio celf yn Abertawe a Chaerdydd. Bum yn athrawes gelf am ddeuddeng mlynedd ac yna yn 2017 dechreuais fel artist llawn amser. Er bod nifer o themâu i’m gwaith, maent i gyd yn seiliedig ar adeiladau a thopograffi de orllewin Cymru – yr arfordir, y pentrefi, y mynyddoedd a’r capeli, ardaloedd lle mae gennyf gysylltiad emosiynol âRead More

Charlotte Baxter.

Posted on 14/12/2019

BYWGRAFFIAD Mae cyfleu ymdeimlad o symud a bywyd yn arbennig o bwysig i mi ac mae’n un o’r rhesymau yr wyf yn cael fy nhynnu i’r arfordir. Mae’r llanw, y tywydd a’r tonnau’n darparu pwnc sy’n newid yn barhaus ac rwy’n mwynhau’r heriau o geisio dal yr eiliadau byrhoedlog hyn yn y dirwedd hardd hon. Rwy’n gweithio’n bennaf gyda leino a thorlun pren gan fy mod yn mwynhau’r posibiliadau a’r heriau rwy’n eu hwynebu wrth weithio gyda’r dull hwn –Read More

Anthony Evans.

Posted on 13/12/2019

BYWGRAFFIAD Yn wreiddiol o Cross Hands yn Sir Gâr, rwyf bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd ac yn aelod o Arlunwyr yr Hen Lyfrgell Cyf; cwmni cydweithredol sydd wedi’i seilio yn Nhreganna.Mynychais Goleg y Drindod yng Nghaerfyrddin, gweithiais fel athro am nifer o flynyddoedd cyn sefydlu fy hun fel artist llawn amser ym 1990. Trwy ddefnyddio ystod eang o gyfryngau, rwyf wedi datblygu arddull egnïol a chyffrous. Sbardunir fy ngwaith gan symudiad, patrwm a llinell, ond dweud storiRead More

Owen Williams.

Posted on 11/12/2019

BYWGRAFFIAD Cefais fy magu ar fferm fynydd yn Sir Aberteifi,  a taniodd diddordeb cynnar mewn pysgota a saethu  ddiddordeb pellach yn y bywyd gwyllt a’r dirwedd o amgylch fy nghartref ger Aberystwyth. Cefais f’ysbrydoli gan gelf Syr Peter Scott a Charles Tunnicliffe, a dechreuais dynnu lluniau a phaentio adar pan oeddwn yn ddeuddeg oed. Penderfynais baentio mewn dyfrlliw, er ei fod yn gyfrwng heriol, oherwydd rwy’n hoffi’r ffordd y mae’n cyfleu awyrgylch mewn elfennau o’m gwaith fel awyr a dŵr.Read More