Marian Hâf.

BYWGRAFFIAD

Graddiais mewn Paentio Celfyddyd Gain o Brifysgol Swydd Gaerloyw, Cheltenham yn 2004, ond rwyf bellach wedi setlo yn ôl gartref yng Ngorllewin Cymru er mwyn magu fy nheulu. Dechreuais wneud printiadau gyntaf yn 2011 pan ymunais â fy ngrŵp print lleol ‘Printers in the Sticks’. Wrth i’m plant dyfu rwy’n dod o hyd i fwy o amser i ddatblygu fy nghrefft ac rwyf wedi bod yn ffodus i arddangos ledled Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Yn aml mae fy ngwaith yn amrywio o ran pwnc, gyda naratif cyffredin o hiraeth a’r lleddf, atgofion am fy mhlentyndod yng nghefn gwlad, yn pysgota gyda nhad a’m brodyr a’m chwiorydd, gwrthrychau, caneuon ac emynau, teganau a daflwyd gan fy mhlant, a threftadaeth a thraddodiad gwaith cwiltio Cymreig.

Mae colagraffau wedi dod yn ffefryn cadarn gen i gan fy mod yn teimlo fod iddynt ansawdd tebyg i ddefnyddio siarcol, eu cyffyrddiad, a rhyddid wrth wneud marciau. Mae rhwygo’r haenau yn arwain at ddyfnder arlliw hardd, ac yna fe’u hatalnodaf gyda llinellau miniog a dotiau staccato. Rwy’n boglynnu fy mhapur yn ddall â thoriadau pren cyn ei argraffu, gan ychwanegu ail naratif cynnil i’r gwaith sy’n cael ei ddal ar ail gip neu archwiliad agosach,  gan ofyn i’r gwyliwr glosio ato.

Mae’r printiadau a ysbrydolwyd gan gwiltiau yn cynnwys llawer o blatiau collagraff llai sy’n gwneud clytwaith cyfansoddiadol, wedi’i osod yn reddfol, heb or-feddwl, gan edrych am y ddamwain hapus honno a gyflwynir yn y ‘Datgelu’.

Rwy’n gwneud fy ngholagraffau trwy drin mownt,  gan rwygo, crafu a thynnu i mewn i’r wyneb a’i selio â sielac. Yna caiff y colagraff ei incio’n ‘intaglio’, lle mae wedi foddi mewn inc a’i gaboli gan adael mwy o inc yn y rhigolau a’r ardaloedd garw,  sy’n creu ystod arlliw a rhinweddau llinol. Mae’r inc yn cael ei godi o’r plât trwy iddo gael ei basio trwy wasg ysgythru gyda phapur llaith. Mae’r holl ddeunyddiau a ddefnyddir yn rhydd o asid ac maent o ansawdd artist, ac oherwydd natur incio’r  plât nid oes dau brint fyth yr un fath.