Mark Warner.

BYWGRAFFIAD

Rwy’n arlunydd gweithredol ac yn diwtor arlunio awyr agored. Cefais fagwraeth ar arfordir hardd Gorllewin Cymru.

Mae braslunio wrth wraidd fy ngwaith. Mae hyn yn rhan annatod o ddatblygiad darn ac yn wir ar adegau, yn rhan o’r paentiad ei hun.

Rwy’n parhau i dynnu ysbrydoliaeth o’r tirwedd, er y gall y pwnc a’r cymhwysiad ar brydiau fod yn wahanol iawn.

Rwy’n hoff o ddefnyddio lliw a llinell wrth ddehongli’r golau, a sut dywydd ydyw, a chariad at y deunyddiau. Rwy’n gweithio’n uniongyrchol yn y maes (yn llythrennol ar sawl achlysur!) o frasluniau a grëwyd y tu allan yn ogystal â nodiadau a ffotograffau a dynnwyd ar leoliad ac yna rwy’n parhau â’r gwaith yn ôl yn y stiwdio.