Karen Pearce.

BYWGRAFFIAD

Rwy’n arlunydd o Aberystwyth sydd wedi arddangos fy ngwaith yn eang yng Nghymru a Lloegr ers 1987. Sefydlais enw i mi fy hun yn gynnar yn fy ngyrfa, wrth gyhoeddi a dosbarthu fy ngwaith blodeuog lled-haniaethol ledled y byd, mewn posteri ar gyfer The Art Group, Ikea a Habitat yn y 1990au. Ymgymerais â hyfforddiant celf ffurfiol ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1998, gan gwblhau BA (Anrhydedd dosbarth 1af) ac MA mewn Celf Gain (2003). Rwyf wedi cael fy nghynrychioli’n lleol gan Oriel y Bont ers yr amser hwnnw. Rwy’n gweithio yn fy stiwdio uwchben y dref yn Aberystwyth,  fel tiwtor sgiliau i Ganolfan Gelf Aberystwyth ac i Oriel Davies, Y Drenewydd. Mae fy mhrif ddiddordebau yn ymwneud â thirwedd, paentio ar gyfer arddangosfeydd a chomisiynau preifat. Edefyn cyffredin sy’n rhedeg trwy fy ngwaith yw ffocws ar y golau a’i effaith ar y dirwedd. Rwy’n aml yn paentio yn yr awyr agored er mwyn pleser, neu fel man cychwyn ar gyfer cynfasau stiwdio mwy, fel arfer mewn acrylig. Datblygaf baentiadau eraill fel arbrofion gyda chyfryngau cymysg – dyfrlliw neu gouache, pasteli, inc neu acrylig, ynghyd â gweadeddau ac arwynebau amrywiol. Mae’r cyfan yn dathlu ymdeimlad o le, cariad at yr elfennau, a diddordeb parhaus mewn potensial mynegiadol paent

.