Lilwen Lewis.

BYWGRAFFIAD

Cefais fy ngeni yng Ngheinewydd ar arfordir Bae Aberteifi, a bum
yn ddigon ffodus i fynd i Goleg Celf yn ifanc iawn, yn gyntaf i Ysgol Gelf Caerfyrddin ac yna i Ysgol Gelf Abertawe i astudio Paentio a Gwydr Lliw. Oddi yno euthum i Goleg Celf Caerdydd a derbyn gradd gan Brifysgol Caerdydd.

Treuliais bum mlynedd yn dysgu Celf a Chrefft yn Ysgol Uwchradd San Clêr

Roedd yn ysbrydoledig gweithio gyda’r disgyblion a gweld byd celf trwy eu llygaid  hwy. Rwy’n cofio fod yno hen ambiwlans, a defnyddiwyd hi fel bws mini i’n cludo i orielau celf, ond roedd hefyd yn ein galluogi i baentio a darlunio y tu allan, ac roedd hyn yn llawer o hwyl.

Yna, priodais a dychwelyd i fyw i Geinewydd i redeg  y cartref a  gofalu am fy mhlant, ond wnes i erioed roi’r gorau i baentio ac arddangos. Rwyf bob amser yn cario fy mag celf gyda mi ac weithiau’n cael stiwdio agored yn fy nghartref.

Daw f’ysbrydoliaeth o’r tirwedd o amgylch fy nghartref, wrth gerdded trwy goedwigoedd, ffermydd ac i lawr i lan y môr ymhlith y cychod pysgota. Rwy’n ceisio sylwi ar hwyliau newidiol y tirwedd a’r bobl.

Rwy’n hoffi arbrofi gyda gwahanol gyfryngau a thechnegau, a symud o realaeth hyd at lled-haniaethol. Nid oes modd gwybod sut y bydd gwaith yn troi allan nac at beth y bydd yn arwain Rwyf hefyd yn mwynhau lluniadu bywyd a phortreadau.
Rwy’n ceisio darlunio neu baentio bob dydd hyd yn oed os mai braslun pum munud yn unig ydyw.