Arlunwyrold

Arlunwyr

Keith Bowen.

Posted on 19/11/2019

BYWGRAFFIAD Medal Aur Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru am Gelf Gain 1986. Gwobrau Portread Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain 1982 a 1986. Gwobrau Portread Cymru 2006 a 2008. Arddangosfeydd Unigol Dethol: Academi Frenhinol Cambrian 2005 a 2010. Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2005. Oriel Tegfryn, Porthaethwy 1992, 2013, 2017. Llyfrau: Snowdon Shepherd 1991 (rhifyn newydd 2009). Among the Amish 1996 / Ivver Sen 2008. Stampiau’r Post Brenhinol: Beibl Cymru 1988, Wintertime 1992.

Karen Pearce.

Posted on 19/11/2019

BYWGRAFFIAD Rwy’n arlunydd o Aberystwyth sydd wedi arddangos fy ngwaith yn eang yng Nghymru a Lloegr ers 1987. Sefydlais enw i mi fy hun yn gynnar yn fy ngyrfa, wrth gyhoeddi a dosbarthu fy ngwaith blodeuog lled-haniaethol ledled y byd, mewn posteri ar gyfer The Art Group, Ikea a Habitat yn y 1990au. Ymgymerais â hyfforddiant celf ffurfiol ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1998, gan gwblhau BA (Anrhydedd dosbarth 1af) ac MA mewn Celf Gain (2003). Rwyf wedi cael fy nghynrychioli’nRead More

John Rowlands.

Posted on 19/11/2019

BYWGRAFFIAD Rwy’n enedigol o Lanrhystud, Ceredigion, ac astudiais gelf yng Nghaerdydd, Bryste a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Bum yn athro Celf yn Buxton, Ystradgynlais ac Aberystwyth cyn gweithio fel Swyddog Addysg Celf yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Enillais Goron Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid ym 1986. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o fy eiddo gan Y Lolfa – ANNWYL ARHOLWR ac ABER. Rwy’n byw yn Nhremadog, Gwynedd. Datblygodd fy ngwaith o seiliau tirluniol, lled-haniaethol i ddelweddau haniaethol gweadol pur. Rwyf wedi arddangos yn eang yng NghymruRead More

Jan Gay.

Posted on 19/11/2019

BYWGRAFFIAD Mae fy ysbrydoliaeth i baentio yn aml wedi cychwyn yng Nghymru. Roedd ‘Snowdon Horseshoe’ yn baentiad a ddatblygais o fraslun un prynhawn cymylog iawn, ychydig cyn i ddilyw gychwyn!  Ac yn wir ‘View from Grace’s window’ oedd golygfa hyfryd fy merch o bier Aberystwyth! Mae hi’n ddigon ffodus i fyw yn Aberystwyth a hi â’m cyflwynodd  i Oriel y Bont. Ar hyn o bryd rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu rhai paentiadau o aber yr afon Mawddach. Rwyf bob amserRead More

Ian Phillips.

Posted on 19/11/2019

BYWGRAFFIAD Mae fy mhroses argraffu heddiw yn cychwyn, fel y mae bob tro, gyda thaith gerdded a llyfr braslunio. Byddaf yn dilyn llwybrau unig dros fryniau gweigion, trwy draciau coedwigoedd troellog, neu ar hyd llwybrau ar ochr clogwyni, yn chwilio am liw, patrwm a gweadedd. Rwy’n edrych am gyfansoddiadau cwbl gyflawn yn y dirwedd. Y cyfan sy’n rhaid i mi ei wneud yw dod o hyd i’r lle iawn i sefyll, y cyfeiriad cywir i edrych iddo a dechrau darlunio.Read More

Gareth Lloyd-Hughes.

Posted on 19/11/2019

BYWGRAFFIAD Fe’m ganed ac fe’m magwyd ym Maentwrog ger Blaenau Ffestiniog yn 1952. Mae’r pentref wedi ei amgylchynu mewn coedydd a thiroedd hudolus yn llawn chwedloniaeth Cymru, ac mae’r dyddiau cynnar a dreuliais yn crwydro’r tirwedd wedi aros gyda mi hyd heddiw. Mae arlunio bob amser wedi bod yn rhan o’m bywyd ac rwyf wedi arddangos mewn gwahanol orielau. Ar ôl ymddeol o’r Llyfrgell Genedlaethol yn 2010 rwyf wedi gallu treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn arlunio tirlun a morlunRead More

Dorian Spencer-Davies.

Posted on 19/11/2019

BYWGRAFFIAD Cefais fy ngeni yng Nghaerfyrddin, dafliad carreg o ‘r ‘Hen Dderwen Ddu’. Cefais fy magu yn Angle, Penfro a Dinbych-y-Pysgod, ac roedd celf yn fy nenu o oedran ifanc iawn. Byddwn bob amser yn darlunio, paentio a lliwio – unrhyw beth a phopeth, a fi oedd y cyntaf o hyd i gael fy ngwahodd i ddarlunio neu ddylunio cylchgronau ysgol, neu bosteri ar gyfer dramâu. Ar ôl dwy flynedd yn y 6ed dosbarth, euthum i astudio Darlunio Hanes NaturiolRead More

Gareth Parry.

Posted on 13/11/2019

BYWGRAFFIAD Cefais fy ngeni ym Mlaenau Ffestiniog ym 1951 a gadewais fy ardal enedigol yn y 1960au i astudio yng Ngholeg Celf Manceinion. Dychwelais adref yn fuan a gweithio yn y chwarel lechi am ychydig flynyddoedd, cyn codi’r brws paent yn broffesiynol i roi cynnig ar waith amrywiol gan gynnwys portreadau a bywyd llonydd. Yn y blynyddoedd cynnar, comisiynau preifat oedd y mwyafrif o’m gwaith; fodd bynnag, ym 1980, newidiais gyfeiriad a dewis canolbwyntio ar arddangosfeydd, gan ddangos gwaith aRead More

Aled Prichard-Jones.

Posted on 13/11/2019

BYWGRAFFIAD Cefais fy ngeni a’m magu ym Mangor a bûm yn gweithio yn Sir Benfro fel Uwch Bensaer nes ymddeol yn 2000. Yna dechreuais baentio yn llawn amser ac rwyf bellach yn arlunydd sefydledig yn gweithio mewn olewau a phastel ac yn byw gartref yn fy ardal enedigol. Mae fy ngwaith yn adlewyrchu’r cariad sydd gen i tuag at fynyddoedd Eryri a’r ysbrydoliaeth rwy’n ei gael ganddynt ar ôl treulio oriau’n eu cerdded ers pan roeddwn i’n blentyn. Mae pasteliRead More

Elizabeth Haines.

Posted on 13/11/2019

BYWGRAFFIAD Mae llawer o’m lluniau yn seiliedig ar y Preselau, lle rwyf wedi byw am hanner can mlynedd. Gallant esblygu o astudiaethau o le penodol – mae fy llyfrau braslunio yn llawn lluniau o dirwedd gartref a thramor, yn ogystal ag unrhyw beth arall sy’n bachu fy sylw. Mae fy mhynciau yn esblygu o bethau yr wyf wedi’u gweld a’u hystyried: weithiau byddaf yn dechrau eto ar ben delwedd a daflwyd, ond weithiau  cadwaf rhai ohonynt fel math o balimpsest.Read More