Dorian Spencer-Davies.

BYWGRAFFIAD


Cefais fy ngeni yng Nghaerfyrddin, dafliad carreg o ‘r ‘Hen Dderwen Ddu’. Cefais fy magu yn Angle, Penfro a Dinbych-y-Pysgod, ac roedd celf yn fy nenu o oedran ifanc iawn. Byddwn bob amser yn darlunio, paentio a lliwio – unrhyw beth a phopeth, a fi oedd y cyntaf o hyd i gael fy ngwahodd i ddarlunio neu ddylunio cylchgronau ysgol, neu bosteri ar gyfer dramâu. Ar ôl dwy flynedd yn y 6ed dosbarth, euthum i astudio Darlunio Hanes Naturiol yng Ngholeg Celf Caerfyrddin. Gan fy mod wedi fy nghyfareddu â natur yn ogystal â Chelf gwelais y gallwn gyfuno’r ddau faes ac ar ôl pedair mlynedd o astudio, dyfarnwyd gwobr ‘Myfyriwr y Flwyddyn’ i mi. Gofynnwyd i mi ddod yn ôl yn fuan fel darlithydd rhan-amser,  ac yn dair ar hugain oed cyhoeddais fy llyfr cyntaf ‘The Heart of Wales Line’. Ar ôl cyfnod llwyddiannus ym maes darlithio a darlunio, euthum i ddilyn gyrfa ym maes cyhoeddi gyda rhai o’r prif dai cyhoeddi . Rwyf wedi gweithio i sawl cyhoeddwr yn Llundain, ac wedi dal swydd Uwch Olygydd Celf ar gyfer adran lyfrau Dorling Kindersley Children, lle dyluniais a chynhyrchu dros ddeugain  o lyfrau ar gyfer DK gan gynnwys y llyfrau hynod lwyddiannus a byd enwog ‘Incredible cross sections’.

Yn ystod yr amser hwn byddwn yn treulio llawer o amser mewn siopau llyfrau ac orielau yn astudio celf a phaentio. Cofiaf edrych ar rai llyfrau, –  Hockney, Matisse, Picasso ac eraill a meddwl mai dyna beth roeddwn eisiau ei wneud! Daliwyd fy nychymyg yn Foyles gan lyfr am artist gweddol anhysbys o Gernyw. Roedd gwaith Alfred Wallis, mor syml a naïf, ond eto roedd mor syth ac mor ddeniadol gan ddal awyrgylch yr oes a fu yn arfordir Cernyw.  Roeddwn wedi gwirioni! Dechreuais fraslunio a datblygu fy steil fy hun â phalet lliw ond yn seiliedig ar arfordir Gorllewin Cymru. Ganed yr arddull a’r gwaith yr wyf bellach yn adnabyddus amdano,  ac yn fuan iawn roeddwn wedi ymgolli yn fy ngwaith, ac yn paentio. Dychwelais i Gymru a dechreuais ddarlunio a phaentio o Gei Newydd. Yma dechreuodd ochr baentio fy ngwaith ddatblygu gan ddylanwad y môr ac arfordir Cymru i raddau helaeth.

Rwyf wedi fy ysbrydoli gymaint gan yr harddwch a welaf o’m cwmpas ac yn datblygu amrywiadau newydd trwy’r amser. Dyna sy’n cadw fy ngwaith yn ffres ac yn fyw.  Rwyf hefyd yn ceisio edrych am bersbectif newydd a gwahanol ar sawl harbwr, a’r cildraethau bob tro y byddaf yn dechrau paentiad newydd. Maent yn aml yn cael eu paentio mewn arddull gynrychioladol fwy traddodiadol ond rwy’n hoffi newid pethau ychydig, a rhoi cynnig ar bethau newydd. Rwyf wedi arddangos mewn dros hanner cant o sioeau yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf ac rwyf yn parhau i baentio o Gymru gyda digon o waith newydd ar y gorwel ac ychydig o bethau annisgwyl newydd i’w rhannu.