![](http://www.orielybont.co.uk/wp-content/uploads/2019/12/bio-sarah-1.jpg)
BYWGRAFFIAD
Rwyf wedi bod yn creu celf am ymron i ugain mlynedd ers symud i Gymru. Mae amgylchedd a thirwedd newidiol Cymru yn ffynhonnell ysbrydoliaeth gyson ar gyfer fy nghelf, ac rwy’n cael fy nenu yn arbennig at goed a pha mor wahanol maent yn edrych yn y pedwar tymor trwy gydol y flwyddyn. Rwy’n mwynhau braslunio mewn inc a dyfrlliw pan fyddaf ar leoliad ac yna creu paentiad gan ddefnyddio acrylig a thechnegau cyfrwng cymysg.