Pete Monaghan.

BYWGRAFFIAD

Rwy’n arlunydd cyfoes sy’n gweithio o stiwdios yn yr Hen Goleg Aberystwyth a hefyd yn  Swabia Uchaf, de’r Almaen.

Rydw i wedi f’ysbrydoli gan bensaernïaeth werinol y Cyrion Celtaidd ac yn hoff o ddefnyddio egni arbennig mannau.

O frasluniau cychwynnol yn yr awyr agored, rwy’n mireinio ac yn ail-weithio delweddau yn y stiwdio, gan greu gwaith sy’n llawn egni a thensiwn. Mae’n dathlu harddwch ac urddas adeiladau gwerinol.

Rwy’n mwynhau gludo gwrthrychau bob dydd yn fy mhaentiadau; yn aml gellir darganfod darnau o gwpanau coffi, mapiau a chardbord rhychog. Mae rhannau o bob paentiad yn cael eu cadw fel elfennau i adlewyrchu breuder ac amseroldeb y strwythurau. Mae fy ngwaith yn rhannol gynrychioladol, ac yn rhannol yn ddehongliad o’r galon.