Ian

Nia Lloyd-Hughes.

Posted on 20/11/2019

BYWGRAFFIAD Mae lluniadu a phaentio bob amser wedi bod yn rhan bwysig o’m bywyd ac roeddwn yn ffodus i gael y cyfle i hyfforddi yn Ysgol Gelf Manceinion yn gynnar yn y saithdegau. Wedi symud i Eryri yn yr 80au dewisais ddyfrlliw fel y cyfrwng perffaith i ddarlunio ysblander tirwedd. Symudais i Ruthun yn gynnar yn y 90au gan barhau i baentio tra hefyd yn cael gyrfa sydd yn fy moddhau wrth  ddysgu celf i oedolion. Fy menter ddiweddaraf ywRead More

Meirion.

Posted on 20/11/2019

BYWGRAFFIAD Un o Aberteifi, Ceredigion ydw i, a bues yn fyfyriwr yng Ngholeg Celf Dyfed. Ar wahân i ambell brosiect yn Ne America, mae fy ngwaith yn ymwneud â phobl, arfordir a thirwedd Gorllewin Cymru, ac mae prom Aberystwyth yn ffynnon gyfoethog o syniadau. Mae fy ngwaith yn esblygu drwy’r amser ond yr hyn sy’n gyson yw, strwythur, naratif a golau.

Mark Warner.

Posted on 20/11/2019

BYWGRAFFIAD Rwy’n arlunydd gweithredol ac yn diwtor arlunio awyr agored. Cefais fagwraeth ar arfordir hardd Gorllewin Cymru. Mae braslunio wrth wraidd fy ngwaith. Mae hyn yn rhan annatod o ddatblygiad darn ac yn wir ar adegau, yn rhan o’r paentiad ei hun. Rwy’n parhau i dynnu ysbrydoliaeth o’r tirwedd, er y gall y pwnc a’r cymhwysiad ar brydiau fod yn wahanol iawn. Rwy’n hoff o ddefnyddio lliw a llinell wrth ddehongli’r golau, a sut dywydd ydyw, a chariad at yRead More

Marian Brosschot.

Posted on 20/11/2019

BYWGRAFFIAD Artist o Lŷn ydw i. Rwy’n ymddiddori mewn gwaith tecstilau a lluniadu du a gwyn gan fwyaf. Rwyf wedi arddangos gwaith ym Mhlas Glyn y Weddw, Llanbedrog ac yn Oriel Tonnau, Pwllheli. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel tiwtor Cymraeg ym Mhwllheli. Mae enwau llefydd a theithio yn bwysig i mi ac rwy’n hoff o ddogfennu hyn drwy fy ngwaith celf gan ffurfio mapiau o eiriau. Gwneuthum lun o enwau llefydd yn ardal Aberystwyth pan oeddwn yn astudioRead More

Marian Hâf.

Posted on 20/11/2019

BYWGRAFFIAD Graddiais mewn Paentio Celfyddyd Gain o Brifysgol Swydd Gaerloyw, Cheltenham yn 2004, ond rwyf bellach wedi setlo yn ôl gartref yng Ngorllewin Cymru er mwyn magu fy nheulu. Dechreuais wneud printiadau gyntaf yn 2011 pan ymunais â fy ngrŵp print lleol ‘Printers in the Sticks’. Wrth i’m plant dyfu rwy’n dod o hyd i fwy o amser i ddatblygu fy nghrefft ac rwyf wedi bod yn ffodus i arddangos ledled Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yn aml maeRead More

Lilwen Lewis.

Posted on 20/11/2019

BYWGRAFFIAD Cefais fy ngeni yng Ngheinewydd ar arfordir Bae Aberteifi, a bumyn ddigon ffodus i fynd i Goleg Celf yn ifanc iawn, yn gyntaf i Ysgol Gelf Caerfyrddin ac yna i Ysgol Gelf Abertawe i astudio Paentio a Gwydr Lliw. Oddi yno euthum i Goleg Celf Caerdydd a derbyn gradd gan Brifysgol Caerdydd. Treuliais bum mlynedd yn dysgu Celf a Chrefft yn Ysgol Uwchradd San Clêr Roedd yn ysbrydoledig gweithio gyda’r disgyblion a gweld byd celf trwy eu llygaid  hwy.Read More

Kim James Williams.

Posted on 20/11/2019

BYWGRAFFIAD Fy man cychwyn bob amser yw darlunio. Bydd rhywbeth yn dal fy llygad:  gall fod yn unrhyw beth o’r cysgodion gyda’r nos ar ochr capel, i dennyn ci yn cerdded y promenâd. Mae fy amgylchoedd yng Ngorllewin Cymru yn ysbrydoliaeth ddiddiwedd, yn enwedig o amgylch fy nghartref ger harbwr Aberystwyth. Mae fy lluniau inc yn ymwneud â threulio amser yn edrych, a bod yn y foment. Mae’r rhannau gwyn yr un mor bwysig â’r marciau inc a dyfrlliw, ganRead More

Kerry Jones.

Posted on 20/11/2019

BYWGRAFFIAD Dechreuais baentio yn ganol oed pan brynodd fy ngwraig set o baent dyfrlliw i mi fel anrheg Nadolig. Cefais fy magu mewn ardal wledig ac rwyf bob amser wedi cael fy swyno gan hen ffermdai, bythynnod ac eglwysi sydd, yn anffodus, yn diflannu’n gyflym oherwydd pydredd neu foderneiddio. Rwy’n credu bod hyn yn rhoi ymdeimlad o hiraeth i lawer o fy ngwaith. Er i mi gael fy ysbrydoli i weithio mewn dyfrliwiau i ddechrau, rwyf hefyd yn gweithio mewnRead More

Ken Bridges.

Posted on 20/11/2019

BYWGRAFFIAD Rwy’n arlunydd gweithredol sy’n byw yng Ngogledd Cymru lle rwyf wedi bod yn gweithio ac yn arddangos am y pymtheng mlynedd diwethaf. Tirluniau neu forluniau yw fy mhrif ddiddordebau. Rwy’n gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau: y prif un yw paent olew. Rwy’n mwynhau ei ddwyster lliw a rhinweddau tebyg i fastig sy’n fy ngalluogi i gymhwyso’r paent i’r wyneb paentio gyda brwsh, cyllell, bysedd, neu ba bynnag offeryn sy’n ymddangos yn briodol i gyflawni effaith ddymunol. Rwyf hefyd ynRead More

Keith Bowen.

Posted on 19/11/2019

BYWGRAFFIAD Medal Aur Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru am Gelf Gain 1986. Gwobrau Portread Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain 1982 a 1986. Gwobrau Portread Cymru 2006 a 2008. Arddangosfeydd Unigol Dethol: Academi Frenhinol Cambrian 2005 a 2010. Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2005. Oriel Tegfryn, Porthaethwy 1992, 2013, 2017. Llyfrau: Snowdon Shepherd 1991 (rhifyn newydd 2009). Among the Amish 1996 / Ivver Sen 2008. Stampiau’r Post Brenhinol: Beibl Cymru 1988, Wintertime 1992.