Ian Phillips.
BYWGRAFFIAD Mae fy mhroses argraffu heddiw yn cychwyn, fel y mae bob tro, gyda thaith gerdded a llyfr braslunio. Byddaf yn dilyn llwybrau unig dros fryniau gweigion, trwy draciau coedwigoedd troellog, neu ar hyd llwybrau ar ochr clogwyni, yn chwilio am liw, patrwm a gweadedd. Rwy’n edrych am gyfansoddiadau cwbl gyflawn yn y dirwedd. Y cyfan sy’n rhaid i mi ei wneud yw dod o hyd i’r lle iawn i sefyll, y cyfeiriad cywir i edrych iddo a dechrau darlunio.Read More→







