![](http://www.orielybont.co.uk/wp-content/uploads/2019/11/bio-meirion-pic.jpg)
BYWGRAFFIAD
Un o Aberteifi, Ceredigion ydw i, a bues yn fyfyriwr yng Ngholeg Celf Dyfed. Ar wahân i ambell brosiect yn Ne America, mae fy ngwaith yn ymwneud â phobl, arfordir a thirwedd Gorllewin Cymru, ac mae prom Aberystwyth yn ffynnon gyfoethog o syniadau. Mae fy ngwaith yn esblygu drwy’r amser ond yr hyn sy’n gyson yw, strwythur, naratif a golau.