![](http://www.orielybont.co.uk/wp-content/uploads/2019/11/nia-lloyd-hughes-reed.jpg)
BYWGRAFFIAD
Mae lluniadu a phaentio bob amser wedi bod yn rhan bwysig o’m bywyd ac roeddwn yn ffodus i gael y cyfle i hyfforddi yn Ysgol Gelf Manceinion yn gynnar yn y saithdegau. Wedi symud i Eryri yn yr 80au dewisais ddyfrlliw fel y cyfrwng perffaith i ddarlunio ysblander tirwedd.
Symudais i Ruthun yn gynnar yn y 90au gan barhau i baentio tra hefyd yn cael gyrfa sydd yn fy moddhau wrth ddysgu celf i oedolion. Fy menter ddiweddaraf yw fel hyfforddwr dyfrlliw ar gyfer Fred Olsen Cruises.
Rwyf wedi bod yn aelod o Gymdeithas Frenhinol Dyfrlliw Cymru ers dros ugain mlynedd.