Bron Jones.

BYWGRAFFIAD

Ceisiaf greu celf sy’n dwyn i gof yr ymdeimlad hwnnw o le.

Rwyf bob amser wedi fy syfrdanu gan ryfeddodau byd natur, a mynegiant y rhyfeddod hwn sy’n fy ysbrydoli. Rwy’n cerdded yn ein tirwedd hardd yn Sir Gaerfyrddin bron bob dydd, a hyd yn oed ar lwybrau cyfarwydd, nid yw byth yr un fath bob tro. Mae Mam Natur yn darparu ysbrydoliaeth anhygoel bob dydd. Sut y gall rhywbeth mor syml â dail yn agor, golau’r haul yn treiddio trwy ddŵr y môr, neu’r gwynt yn gyrru’r cymylau ar draws yr awyr, ein gorfodi i sefyll yn stond – eiliadau mor gyflym, ond rhai mor hudolus.

Arweiniodd yr angerdd hwn fi i ffwrdd o’m tueddiadau artistig. Ni fu’n hir cyn i mi sylweddoli fy mod i eisiau rhannu fy nghariad at fyd natur gyda’r genhedlaeth nesaf, ac o’r herwydd gweithiais fel athrawes ysgol gynradd am naw mlynedd ar hugain, swydd yr oeddwn i’n ei charu.

Ar ôl i mi ymddeol bedair mlynedd yn ôl, cefais amser i gyfuno fy nghariad at fyd natur â chelf. Fy nhuedd naturiol yw creu gwaith cynrychioliadol gyda manylder cain, ond mae artist mwy digymell, haniaethol y tu mewn i mi yn ymladd i neidio allan! Rwyf wrth fy modd yn cyfleu’r llawenydd a’r rhyfeddod a deimlaf wrth weld  lliwiau; pan glywaf gân adar; a cheisio cyfleu’r ymdeimlad hwnnw o ryddid a ddaw yn sgîl natur wyllt ein gwlad: felly rwy’n ceisio dysgu i beidio â rheoli fy hun!

Rwyf wedi mwynhau gweithio ochr yn ochr ag artistiaid anhygoel, ac wedi mynychu nifer o gyrsiau i ddatblygu fy sgiliau a thechnegau. Mae gen i ffordd bell i fynd o hyd. Gallech fy ngalw yn ‘waith ar y gweill’, ond rydw i’n mwynhau’r daith hon gymaint.

Rwyf wrth fy modd yn gweithio yn y dirwedd yn gwneud marciau’n gyflym, ar ddalennau mawr o bapur i ganolbwyntio fy sylw ar gipolygon, gan ddal argraffiadau cyntaf o weadau a siapiau, a chofnodi’r dirwedd o wahanol safbwyntiau. Mae braslunio dall yn ôl yn y stiwdio yn fy ngalluogi i haniaethu’r dirwedd ymhellach a chanolbwyntio ar deimladau ac argraffiadau. Rwyf wrth fy modd â chwydro, crafu a llyfnhau drwy’r haenau i ddatgelu’r hyn sydd oddi tano: cynildeb gwead a lliw sy’n ychwanegu at deimlad cyffredinol y paentiad. Rwy’n mwynhau arbrofi gyda marciau, yn aml gyda deunyddiau a gaf ar fy nheithiau cerdded, a gweithio’n fwy greddfol heb ddyluniad terfynol mewn golwg, i ddod â natur ddigymell i mewn i’m proses greadigol.

Pan edrychwch ar un o’m paentiadau, gobeithio y byddwch yn teimlo’r gwynt yn eich gwallt ac yn ei glywed yn cwynfan yn y coed.

Weithiau rydych chi angen gweld delwedd