Gwladys Evans – Serennu.

BYWGRAFFIAD

Merch o ardal Aberystwyth a fagwyd yng Nghefnllwyd ydw i.  Dysgais hanfodion fy ngwaith clai mewn dosbarthiadau nos yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Yna, es ati i droi hobi yn fusnes. Cerflunydd hunan ddysgedig ydw I yn y bôn, ac mae hyn wedi fy helpu i ddysgu am brosesau ac ansawdd fy ngwaith yn  fy ffordd unigryw fy hun.

Rwy’n cynhyrchu fy ngwaith mewn stiwdio yn yr ardd ym Montgoch,  yng nghesail mynyddoedd Cambria. Rwy’n creu cerfluniau unigryw a photiau addurniadol. Byd natur, yr ardal wledig a barddoniaeth sy’n fy ysbrydoli, ac rwyf wrth fy modd yn astudio symudiad pethau byw yn ogystal â thrawsnewid y clai ystwyth meddal yn gerflun statig solet.