Valerie Land.

BYWGRAFFIAD

Astudiais gelf a dylunio yn Norwich a Farnham a dilynais gwrs ôl-raddedig ym Mhrifysgol Reading. Am rai blynyddoedd wedyn roeddwn yn bennaeth celf mewn ysgol breifat. Ers 1999 rwyf wedi bod yn arlunydd proffesiynol sy’n byw yng Nghymru. Rwy’n arddangos, ac yn gweithio i gomisiwn.

Mae fy nghartref, ym mhentref bach Y Friog, yn daith fer, sionc o’r môr,  bryniau a choetiroedd. Y lleoedd cyfarwydd hyn fu canolbwynt fy ngwaith, ond rwy’n ffafrio dal naws benodol, yn hytrach na lleoliad penodol. Mae fy ngwaith yn esblygu’n gyson, bob amser yn ymwneud â goleuni, yn tueddu i fod yn heddychlon, unig, yn fyfyriol ac weithiau ychydig yn swrrealaidd.