Valériane Leblond.

BYWGRAFFIAD

Cefais fy magu yn Ffrainc, ond bellach rwy’n byw mewn hen ffermdy yng Nghymru, ynghyd â’m tri mab a chath. Rwy’n paentio mewn stiwdio fach gartref, lle dwi’n sipian te ac yn gwrando ar radio Ffrengig wrth weithio. Rwy’n mwynhau darlunio a phaentio, ond pan roeddwn i’n fach, roeddwn i wir eisiau bod yn awdur a storïwr. Rwyf wrth fy modd yn chwarae gyda geiriau, gyda phaent a gyda Lego, a darllen llyfrau, yn enwedig yn y gwely yn y bore.

Mae fy nesg yn cael ei chadw’n dwt rhwng paentiadau, ond pan rwy’n gweithio mae tiwbiau o baent olew a phaent gouache, cannoedd o bensiliau lliw a phasteli olew ym mhobman ynghyd â phaletau, brwshys paent, nodwyddau, mygiau o de, dŵr, twrpentin neu olew had llin a llyfrau. Mae’r silff wrth fy ymyl wedi ei gorchuddio â llyfrau celf a lluniau, o wneuthurwyr printiau Siapaneaidd o’r 19eg ganrif i ddarlunwyr heddiw.

Mae celf werin a chyntefig yn dylanwadu ar fy steil, ac yn aml mae straeon yn digwydd yn y manylion. Mae’r gegin neu’r aelwyd, y golch  yn sychu ar y lein, a’r ardd yn aml yn bresennol yn fy mhaentiadau a’m lluniau. Mae fy lluniau yn cyfleu’r syniad o’r cartref, ac yn dangos sut mae pobl yn byw ar y tir.

Nid yw’r môr yn bell o ble rwy’n byw, ac mae mynd am dro yn y bryniau neu ar y traeth bob amser yn ysbrydoliaeth. Mae’r dirwedd yn chwarae rhan bwysig yn fy ngwaith, gyda threigl y tymhorau, yr amrywiadau mewn lliwiau a goleuadau, a’r môr cyfnewidiol.