Theo Crutchley-Mack.

BYWGRAFFIAD

Rwy’n artist Prydeinig cyfoes  â’m gwaith yn ymddangos mewn casgliadau preifat a chyhoeddus ledled y DU.

Yn fy arddegau, dyluniais ddarn arian 50 ceiniog a gafodd ei fathu ac a aeth i gylchrediad cenedlaethol gyda chymeradwyaeth frenhinol, gan danio cyfeiriad artistig clir o oedran ifanc.

Ers graddio o Brifysgol Falmouth gyda sioe radd a werthodd pob tocyn, rwyf wedi parhau i arddangos yn llwyddiannus ledled Cymru a Chernyw am chwe blynedd hyd yma.

Yn 2018 cefais wahoddiad i ynys is-Antarctig De Georgia,  lle gwnes i beintio a dogfennu’r gorsafoedd morfila adfeiliedig, i helpu i godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Treftadaeth De Georgia. Mae’r ymddiriedolaeth sy’n gweithio i adfer cynefinoedd difrodedig bywyd gwyllt brodorol. Cafodd ansawdd drylliog  yr adeliadau hyn effaith sylweddol ar fy ngwaith a’i ddilyniant.

Rwy’n ymdrechu i gofnodi tirwedd aneglur, llefydd sy’n aml yn anghyfannedd ac  anghysbell. Rwy’n treulio oriau lawer y tu allan yn gwneud paentiadau yn yr awyr agored sy’n ysgogi gweithiau mwy, haniaethol. Mae fy mhaentiadau stiwdio yn dechrau fel paneli pren sydd wedi’u hadeiladu o haenau lluosog o bren wedi’i hollti. Mae’r broses hon yn sail i ddull cerfluniol o beintio lle mae’r gweadau gwaelodol yn aml yn fwy amlwg na’r paent ei hun.