Rhian Eleri.

BYWGRAFFIAD

Yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr, rwyf bellach yn byw ym mhentref arfordirol Aberporth, Ceredigion ac yn gweithio o fy stiwdio yn Aberteifi gerllaw.

Rwy’n cael fy swyno’n barhaus gan gydadwaith lliwiau a’r modd y maent yn cyfuno ac ynrhyngweithio â’i gilydd. Mae peintio yn fy ngalluogi i chwarae ac archwilio perthnasoedd rhwng lliwiau ac o ganlyniad, rwy’n gobeithio fy mod yn creu darnau sy’n apelio’n weledol.

Pan rwy’n dechrau peintiad, mae’r sylfaen gychwynnol o liwiau acrylig yn cael ei gymhwyso’n ddigymell ac rwy’n ceisio peidio â chanolbwyntio ar y canlyniad terfynol, gan adael i’r paentiad esblygu’n naturiol. Unwaith y bydd yn sych, rwy’n dilyn gyda haenau o baent olew, gan ychwanegu dyfnder a gwead. Mae olion gwaith y brwsh a marciau yn dod yn fwy bwriadol a beiddgar.

Er bod fy ngwaith wedi’i seilio’n fras ar natur ac er bod iddo naws braidd yn flodeuog, gall y cyfansoddiadau hyn fynd yn fwyfwy haniaethol wrth i haenau adeiladu ac yna … y lliwiau’n unig sy’n bwysig.