Pete Morgan.

BYWGRAFFIAD

Mae adeiladau o hyd wedi bod wrth galon fy narluniau a’m paentiadau. Rwy’n gweithio’n uniongyrchol o’r amgylchedd, yn aml yn ail-ymweld â lleoedd lawer gwaith mewn tywydd a thymhorau cyfnewidiol, ac yn newid fy mhalet gyda naws a natur, o arlliwiau du a brown y gaeaf i felyn ac ocr yr hydref. Yn fwy na hynny mae gan wyrddni llachar a ffres, melyn ac awyr las glir y gwanwyn apêl arbennig yn fy mlwyddyn waith. 

Mae fy mhaentiadau wedi cael eu hysbrydoli gan yr amgylchoedd cyfagos yn ogystal â lleoedd ymhellach i ffwrdd. Mae ymweliadau â Gogledd Cymru, Cernyw a Gŵyr wedi arwain at gyfres o baentiadau mwy sydd hefyd yn anelu at ddal rhywbeth o hanfod y lle. Rwy’n gweithio mewn acrylig yn bennaf, gan gofleidio ystod o dechnegau gan gynnwys gwydro, impasto a phaentio uniongyrchol. 

Dechreuad unrhyw un o’m gweithiau yw braslun cyflym neu gipolwg, yn aml paentiadau wedi’u gwneud o ychydig o linellau cyflym wedi’u llenwi â lliw er mwyn helpu i ddod â’r profiad o fod yn y lle hwnnw yn fyw, wedyn ei  orffen â llinell ysgrifbin, techneg a ddatblygwyd o astudiaethau dyddiau coleg. Byddaf yn aml yn ail-ymweld â lleoedd gan gerdded i gyfeiriadau gwahanol fel mae’r ddelwedd yn newid wrth i mi weld safbwynt newydd. Mae rhywbeth i’w beintio bob amser, ond mae dod o hyd i’r ddelwedd yn rhoi ysbrydoliaeth i mi ddod o hyd i rai eraill.

 Mae llawer o fy ngwaith diweddaraf  yn mynd i’r afael â’r profiad o deithio, yn aml gan  fraslunio’r amgylchoedd a welaf yn ystod gwyliau’r teulu. Mae’r rhain yn parhau i gryfhau fy niddordeb yn y byd naturiol tra maent hefyd yn helpu i ddatblygu ymdeimlad o ymwybyddiaeth o dirwedd ac amgylchedd. Mae’r gwrthrych yn aml yn ymgorffori golau, awyrgylch a harddwch lleoedd rwy’n eu hadnabod yn dda. Y nod yn fy holl baentiadau yw cyfleu rhywfaint o’r emosiwn hwn i’r gwyliwr. Rwy’n fwyaf adnabyddus am y bythynnod gwyngalchog dramatig Cymreig sydd wedi’u cuddio y tu ôl i waliau cerrig, ond rwyf wedi peintio ymhellach i ffwrdd ac yn gobeithio parhau i wneud hynny. Rwy’n peintio gan ddefnyddio haenau o wead a lliw i greu delwedd ar gerdyn neu gynfas. Ym mhob paentiad, nid wy’n gybod yn iawn pa liw fydd yr awyr neu’r dirwedd. Gall gymryd wythnos neu gall gymryd ychydig oriau yn dibynnu ar sut mae’r haenau’n adeiladu. Yn gyffredinol mae’n dechrau gyda braslun  mewn pensil, ac rwy’n adeiladu ar hynny. Efallai bod yna sawl lliw ar ben ei gilydd – nid yw bob amser yr un paentiad. 

Mae fy mhaentiadau yn ganlyniad uniongyrchol i’m harsylwadau a’m profiadau ar leoliadau go iawn. Mae fy holl baentiadau yn dechrau gyda darluniau, dyfrlliwiau neu frasluniau acrylig. Yna caiff y gweithiau mwy eu cwblhau yn fy stiwdio mewn acrylig. Ni fyddaf yn gweithio ar îsl ond yn gweithio’n fflat ar fy mwrdd gwaith.