Owen Lyndon Thomas.

BYWGRAFFIAD

Arddangosais fy mhaentiadau cyntaf, olewau ffigurol yn bennaf, yn gynnar yn y 1960au. Ceisiodd fy ngwaith adeg hynny leoli  diwydiant mewn tirwedd – bryd hynny nid oedd prinder ysbrydoliaeth yn ne Cymru. O 1966, newidiais gyfeiriad i wneud crochenwaith domestig caled a gâi ei arddangos a’i werthu mewn nifer fawr o orielau a siopau crefft ledled Cymru a’r Gororau. Yn sgîl datblygu cyflwr arthritis rhoddais gynnig byr ar turnio pren cyn i’m salwch gwtogi ar unrhyw ddatblygiad pellach.

Ail-afaelais mewn paentio yn 2008 ond roeddwn yn poeni  ar y dechrau na fyddwn yn gallu osgoi dylanwad artistiaid fel Will Roberts a Josef Herman, y rhain yr wyf yn eu  hedmygu.

Esblygais ddull o weithio mewn acrylig ar bapur, gan ddefnyddio cyllyll paentio i gyflawni’r effeithiau gweadog yr oeddwn yn eu dymuno. Tirwedd gogledd Sir Benfro a Phenrhyn Llŷn, dau begwn eithaf gorllewin Cymru yw mwyafrif fy ngwrthrychau.

Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn pobl sy’n byw yn y dirwedd, yn aml yn byw mewn llefydd anghysbell, llefydd sydd bron yn ymddiheurol am eu lleoliad. Mae ymchwilio i wrthrych fel arfer yn gofyn am hyd at bum paentiad er mwyn dal yr ystod o awyrgylchoedd y gall amodau tywydd amrywiol eu darparu.

Rwy’n arddangos gwaith mewn nifer o orielau yng Nghymru.