Myfanwy Brewster.

BYWGRAFFIAD

Gan i mi gael fy ngeni a’m magu ar fferm yng Nghemaes, yng ngolwg Parc Cenedlaethol Eryri, rwyf bob amser wedi bod â chysylltiad ag anifeiliaid a thirwedd. Rwyf wedi arlunio ers i mi fod yn bedair oed,  ac arweiniodd y diddordeb hwn mewn dylunio a thirwedd at yrfa fel Pensaer Tirwedd.

Trwy gydol yr amser hwnnw bûm yn darlunio, ond rhaid cyfaddef mewn modd ad-hoc ac anghyson. Pum mlynedd yn ôl, ar ôl methu’n druenus â dod o hyd i gerdyn yn cynnwys defaid yn ‘cusanu’ ar gyfer priodas ffrind oedd yn ffermio defaid, lluniais un fy hun.

Ar ôl derbyn canmoliaeth am lun portread pensil tra’n sefyll arholiad celf  Safon Uwch, gan ddefnyddio dotiau yn unig, roeddwn i’n meddwl y byddai’r dechneg honno’n benthyg ei hun yn dda i inc, yn enwedig ar gyfer cynrychioli ffwr a gwlân. Roedd llun defaid a wneuthum yn edrych yn eithaf da felly fe’u glynais mewn ffrâm, ac aeth pobl yn frwd drosto.  Felly, wedi hynny, defnyddiais yr un dechneg i gynhyrchu nifer o luniadau ar gyfer anrhegion priodas a phen-blwydd rhad, yn ogystal â chomisiynau am bortreadau o anifeiliaid anwes. Fe wnaeth yr adborth cadarnhaol fy argyhoeddi y gallwn droi lluniadu yn fwy na hobi.


Oherwydd hyn oll, mae dotiau inc du ar bapur gwyn wedi dod yn arddull arlunio i mi. Rwy’n cyflwyno fflachiadau o liw yn raddol, ond bydd du a gwyn bob amser i mi yn cael goruchafiaeth.