Michael Tomlinson.

BYWGRAFFIAD

Cefais fy ngeni yn Accrington, Sir Gaerhirfryn ym 1958. Enillais radd BA (Anrh.) mewn Daeareg ac Archeoleg o Brifysgol Manceinion ym 1980 a chwblheais TAR o Brifysgol Aberystwyth yn 2000. Rwyf wedi byw yng nghanolbarth Cymru ers 1986.

Rwy’n arlunydd cwbl hunanddysgedig a chefais fy sioe unigol gyntaf yn Oriel Gelf Haworth, Accrington ym 1994. Ers hynny rwyf wedi cael llawer o sioeau unigol ledled y wlad gan gynnwys rhai yn The Royal Court Theatre yn Llundain ym 1995, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ym 1999 ac yn Y Tabernacl ym Machynlleth ym 1994, 1995, 1997, 2004 a 2015. Rwyf hefyd wedi dangos gwaith yn rheolaidd mewn sioeau cymysg ledled Prydain.

Rwyf wedi cael fy nghynnwys yn y Gystadleuaeth Portreadau Genedlaethol ddwywaith gan ennill y drydedd wobr ym 1993. Rwyf wedi paentio llawer o bortreadau gan gynnwys y dramodydd, Arnold Wesker a’r awdur, Jan Morris. Dyfarnwyd Grant Teithio Cyngor Celfyddydau Cymru i mi er mwyn fy ngalluogi i ymweld â’r Eidal ym 1995. Enillais Wobr Goffa Ailsa Owen yn Y Tabernacl, Machynlleth ym 1996 a gwobr Celf Gymraeg Gulbenkian ym 1998. Mae gen i baentiadau yng nghasgliadau’r Amgueddfa a’r Oriel Genedlaethol,  Caerdydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a’r Tabernacl, Machynlleth.

Rwyf wedi ysgrifennu amryw o erthyglau ar Gelf gan gynnwys darn ar gyfer The Guardian. Mae gen i ddiddordeb arbennig yn yr arlunydd Thomas Jones (1742-1803) ac rwyf wedi cyhoeddi darnau amdano yn New Welsh Review yn 2014, The Transactions of The Radnor Society, 2016 a The Transactions of The Honourable Society of Cymmrodorion, 2016. Traddodais ddarlith ar baentiad Thomas Jones, A Wall in Naples, yn Y Drwm, Y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth yn 2015. Rwy’n paentio olewau a dyfrlliwiau fel ei gilydd, ac er fy mod wedi paentio llawer o bortreadau a thirweddau yn y gorffennol, mae fy niddordeb presennol gyda genre bywyd llonydd. Rwy’n tynnu ysbrydoliaeth o weithiau Juan Sánchez Cotán, The Dutch Golden Age, Manet a Magritte. Mae gan y mwyafrif ohonynt ychydig o fin  o swrrealaeth neu symbolaeth. Rwyf hefyd yn hoffi chwarae gyda syniadau o symud, amser a serendipedd.