Lois Jones.

BYWGRAFFIAD

Cefais fy magu yn Nhalybont, Aberystwyth. Dwi ar hyn o bryd yn byw yng Nghaerdydd yn gweithio fel cyfrifydd. Mae bod yn greadigol wedi bod yn rhan mawr o fy mywyd o hyd, er i mi beidio mynd i astudio celf ymhellach na’r ysgol rwyf wedi parhau i arbrofi gyda amryw o ddulliau. Dechreuais wneud printiadau leino ar ôl mynychu dosbarth nos yng ngholeg celf Met Caerdydd.

Mae amgylcheddau gwledig wrth wraidd fy ngwaith, wedi ei ysbrydoli yn bennaf gan amgylchedd Gorllewin Cymru. Mae’r delweddau wedi’u ffurfio mewn dilyniannau a chyfresi, fel ffordd o ddatblygu dyluniadau penodol ac arbrofi gyda’r gwahanol liwiau a gweadau.