Lavinia Range.

BYWGRAFFIAD

Rwy’n cael f’ysbrydoli gan gariad dwfn at y dirwedd yma yng Ngwynedd ynghyd ag angen gwirioneddol i gofnodi ei hwyliau niferus a’i newidiadau hinsoddol. Rwyf wrth fy modd yn ceisio dal golau’r haul ar wair sydd newydd ei dorri, coed ysgerbydol y gaeaf, neu wyrddni lliw olewydd môr cythryblus.

Rwy’n braslunio yn yr awyr agored ym mhob tywydd a thymor, gan wneud nodiadau gofalus o unrhyw naws na fyddai llun syml efallai wedi’i gipio, cyn eu trawsosod ar gynfas. Mae gweithio y tu allan yn fy atgoffa fy mod i’n rhan o’r dirwedd, nid arsylwr achlysurol yn unig.

Mae blodau a bywyd llonydd yn rhannau yr un mor bwysig o fy ngwaith fel arlunydd. Rwy’n aml yn cadw at balet eithaf cyfyng, yna’n defnyddio sblash o liw i godi’r paentiad cyfan. Rwy’n hoffi I’m gwaith bywyd llonydd i gael naratif, er mwyn eich gwahodd i ddychmygu hanes cyfoethog unrhyw wrthrych penodol.