Jonathan Retallick.

BYWGRAFFIAD

Cefais fy ngeni ar Ynys Môn yng ngogledd Cymru ym 1996 a chefais addysg gartref nes cofrestru ar gwrs BA Celf Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2017. O oedran ifanc roeddwn yn mynd gyda fy nheulu i grŵp celf wedi’i leoli ar yr ynys. Yn y grŵp hwn y cefais gyfle i ddysgu gan Keith Shone, Philip Snow, David Woodford, Kyffin Williams, a Jeremy Yates, yn ogystal â’r artist amatur Richard Watson a oedd yn trefnu’r grŵp. Magwyd fy niddordeb artistig cyn y gallwn ddal pensil, gan ddysgu ffyrdd imi weld y byd yn wahanol a sut i ddod o hyd i harddwch ym mhopeth.

Rwyf wedi treulio llawer o fy mywyd yn archwilio tirwedd garw ac uchel gogledd Cymru, gan ddod o hyd i’r gemau enydol hynny sy’n cymryd eich anadl.  Rwy’n gweithio trwy gyfuniad o rreddf, dulliau paentio awtomatig isymwybodol, a myfyrio dwys. Yn 2020 graddiais o Brifysgol Aberystwyth gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Celf Gain. Cyfeiriodd fy mhortffolio at echdynnu gyda synwyrusrwydd hyperrealistig. Rwy’n dal i fyw yng nghanolbarth Cymru, ond rwy’n aml yn teithio rhwng Ceredigion a’m sir enedigol, er mwyn bwydo fy nychymyg.