Eurfryn Lewis.

BYWGRAFFIAD

Yn wreiddiol o Dregaron, rwy’n athro Celf a Dylunio ers 20 mlynedd bellach ac yn byw yng Nghaerdydd. Rwy’n defnyddio technegau argraffu amrywiol er mwyn cynhyrchu gwaith, yn ogystal â gweithio gydag olew, golosg ac aml-gyfrwng. Mae fy themâu yn amrywio ond fe ddaw fy nylanwad yn bennaf o’m treftadaeth Gymreig gref. Mae fy ngwaith yn cynnwys cymeriadau cefn gwlad Cymru, corau meibion a rygbi. Ers 2007 rwyf wedi cynnal sawl arddangosfa unigol yng Ngheredigion. Rwyf wrth fy modd yn cynhyrchu’r gwaith. Rwy’n gobeithio fod pobl yn gallu teimlo cysylltiad clir rhwng y gwaith a Chymru. Mae’r delweddau yn ddathliad o’r Gymru rwy’n ei weld ac mae’r delweddau yn tarddu o’m mhrofiadau personol yng nghefn gwlad, ymarferion côr a’r maes rygbi.