Simon Goss.

BYWGRAFFIAD

Rwy’n arlunydd, awdur a dylunydd graffig sydd wedi’i leoli yn Abertawe. Yn wreiddiol o Brynamman, cefais fy addysg yn Ysgol Gyfun Cwm Aman, Coleg Celf Dyfed a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, gan ennill M.A. mewn Cyfathrebu Gweledol (Dialogau Cyfoes) yn 2011.

Ar ôl gyrfa hir yn y celfyddydau gweledol fel dylunydd graffig, darlunydd a darlithydd, penderfynais wneud mwy o amser ar gyfer paentio gan gynnwys  celf ffigurol, portreadau ac yn ddiweddar, tirweddau.

Ers dyddiau coleg yn gynnar yn yr 1980au rwyf wedi mynychu, neu gynnal, sesiynau rheolaidd o ddarlunio bywyd. Dechreuais baentio portreadau mewn olewau saith mlynedd yn ôl a dechreuais baentio tirweddau yn yr awyr agored i ehangu fy sgiliau ac i ddatblygu ochr fwy arlunyddol i’m gwaith. Yn gynharach eleni cafodd un o’r portreadau a baentiais yn ystod y cyfnod clo ei dderbyn ar gyfer arddangosfa flynyddol Cymdeithas Frenhinol y Peintwyr Portread yn Orielau Mall yn Llundain. Yn ddiweddar, cefais erthygl am fy mhaentiadau tirlun wedi ei chyhoeddi ar-lein yn y cylchgrawn ‘Counter Arts’ Dyma’r cyfeiriad…- https://medium.com/counterarts/alone-under-the-sky-919c5462c927

Rwy’n disgrifio fy hun fel ‘gŵr, tad, dioddefwr rygbi ac ambell ddrafftiwr yn yr ystyr glasurol’.

Rwy’n siaradwr Cymraeg ac yn briod gyda phedwar o blant sy’n oedolion, a chath.