Wendy Murphy.

BYWGRAFFIAD

Cefais fy ngeni yng Nghaint ym 1956, ac yn fy ugeiniau hwyr penderfynais newid gyrfa yn llwyr o weithio fel cysodwr yn Llundain. Astudiais Ddylunio Graffig am ddwy flynedd yng Ngholeg Celf Caergaint cyn symud  ymlaen i Goleg Celf Brighton lle graddiais gyda gradd BA (Anrh) mewn Darlunio ym 1990. Yn yr un flwyddyn symudais i Wynedd, lle rwy’n gweithio fel paentiwr proffesiynol.

Rwyf wedi ennill sawl gwobr bwysig iawn am fy mhaentiadau – enillais wobr Genedlaethol Prydeinig – gwobr gyntaf ddwywaith yng nghystadleuaeth paentio tirlun John Laing, a gwobr gyntaf ddwywaith eto yng nghystadleuaeth Agored Gelf Cymru MOMA. Roeddwn yn ail yng nghystadleuaeth Dyfrlliw Y Sunday Times. Yn 2004 enillais y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth gelf ‘The Spirit of Llŷn’ ac rwyf wedi ymddangos ar y teledu mewn rhaglen am Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Rwy’n arddangos gwaith ledled y DU gan gynnwys Llundain a Chaerdydd.

Mae’n eironig fy mod i’n byw mewn lle mor ysblennydd o hardd oherwydd nid dyna’r ‘olygfa fawreddog’ y mae gen i ddiddordeb yn ei  baentio, ond yn hytrach  tirweddau bob dydd a’r bobl rwy’n  eu hadnabod. Mae hen fwthyn neu gornel flêr mewn gardd yn fwy deniadol na golygfa sydd ‘eisoes wedi’i gwneud’.  Mae pob paentiad yn dod yn ddarn o theatr, yn ddramateiddiad goddrychol o’r cyfarwydd. Mae’r broses  o baentio yn gathartig  a chyffrous yn fy marn i. Rwy’n annog serendipedd trwy weithio’n gyflym a chaniatáu rhywfaint o ryddid i’r paent – cyn i mi, yn anochel, ei ffrwyno eto.