Thomas Haskett.

BYWGRAFFIAD

Cefais fy ngeni yng Nghaint, ac astudiais yng Ngholeg Celf Canterbury, ac yna yn Ysgol Gelf Falmouth.

Yn gynnar yn fy ngyrfa bûm yn gweithio fel darlunydd yng Nghernyw cyn sefydlu fy hun fel paentiwr yn Sir Benfro bron i ddegawd yn ôl. Er gweithio i ddechrau mewn dyfrliwiau ac inciau, rwyf bellach yn gweithio yn bennaf gydag olew. Fy mhrif amcan yw cofnodi gwahanol rinweddau ac amrywiaethau golau ar hyd arfordiroedd, bryniau a mynyddoedd Cymru, a thrwy hynny ddistyllu ymdeimlad o fan ac o amser. Mae’r rhan fwyaf o’m  gwaith yn cael ei gynhyrchu ar leoliad, gan ddefnyddio byrddau sydd wedi’u paratoi gyda fy ngesso fy hun. Mae fy mhaent olew hefyd wedi’i wneud â llaw, ac mae fy holl fframiau wedi eu gorffen â llaw.