Sian McGill.

BYWGRAFFIAD

Cefais fy ngeni ar Ddydd Gwyl Dewi 1973 ym Mhont-y-pŵl. Ar ôl ennill gradd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, dychwelais at gariad plentyndod, sef celf,  a’i ddilyn,  ochr yn ochr â magu teulu ifanc. Buan iawn y daeth paentio yn angerdd, ac mae bellach wedi dod yn waith amser llawn.

Rwy’n arddangos yn rheolaidd mewn orielau yng Nghymru a Chernyw, ac rwyf wedi cael gwaith wedi’i ddewis ar gyfer  Academi Frenhinol Cambrian. Daw llawer o’m hysbrydoliaeth yn uniongyrchol o’m hoff leoedd – yn yr awyr agored yn mwynhau arfordir a mynyddoedd Cymru. Mae’r paentiadau  yn ymateb i’r tirwedd, yn ymgais i ddal rhywbeth o brofiad  ac egni lle – a sut mae’n teimlo i fod yno ar y diwrnod hwnnw.

Yn arlunydd mynegiadol a greddfol, rydw i’n gweithio’n bennaf gyda chyllell balet, ond hefyd yn paentio gyda brwshys, bysedd, neu beth bynnag arall sy’n dod i law i gael yr effaith a ddymunaf. Rwy’n mwynhau arbrofi gyda gwneud marciau, lliw a gweadedd i greu amrywiaeth o effeithiau – mae hyn yn aml yn arwain at rywfaint o brofiadau anrhagweladwy gan ganiatáu i’r paentiadau ymddangos bron ar eu pennau eu hunain.