Owen Williams.

BYWGRAFFIAD

Cefais fy magu ar fferm fynydd yn Sir Aberteifi,  a taniodd diddordeb cynnar mewn pysgota a saethu  ddiddordeb pellach yn y bywyd gwyllt a’r dirwedd o amgylch fy nghartref ger Aberystwyth. Cefais f’ysbrydoli gan gelf Syr Peter Scott a Charles Tunnicliffe, a dechreuais dynnu lluniau a phaentio adar pan oeddwn yn ddeuddeg oed. Penderfynais baentio mewn dyfrlliw, er ei fod yn gyfrwng heriol, oherwydd rwy’n hoffi’r ffordd y mae’n cyfleu awyrgylch mewn elfennau o’m gwaith fel awyr a dŵr.

Ar ôl gweithio ym maes gwerthu hysbysebion yn Llundain am wyth mlynedd dychwelais i’r fferm deuluol gyda’m gwraig a’m teulu ifanc ym 1985 i ddechrau gyrfa fel arlunydd proffesiynol. Ers hynny, rwyf wedi sefydlu enw fel un o’n prif artistiaid bywyd gwyllt, gyda gwaith yn cael ei ddal mewn casgliadau preifat yn y DU, UDA ac Ewrop.

Yn 2003 cefais fy nghomisiynu gan yr Aelwyd Frenhinol i baentio dyfrlliw fel eu hanrheg pen-blwydd yn 21 oed i’w Uchelder Brenhinol Dug Caergrawnt ac roedd cael y fraint o’i ddanfon yn bersonol i Balas Buckingham yn ddiwrnod pwysig yn fy ngyrfa fel arlunydd.

Mae fy ngwaith wedi ei atgynhyrchu mewn nifer o lyfrau gan gynnwys ‘Birds in Wales’ (Poyser), The Illustrated Encyclopaedia of Birds  (Headline),  Wildlife Factfile’, a ‘Geiriadur Gomer I’r Ifanc ’(Gwasg Gomer).
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi chwarae rhan sylweddol yn y gwaith o astudio cyffylogiaid trwy fodrwyo a gosod olrheinwyr i ddysgu am eu teithiau mudo rhwng eu lleoedd bridio yn Rwsia,  a gaeafu yng Ngorllewin Cymru. Nid yw’n syndod bod cyffylogiaid yn aml yn ymddangos yn fy mhaentiadau