Nia Lloyd-Hughes.

BYWGRAFFIAD

Mae lluniadu a phaentio bob amser wedi bod yn rhan bwysig o’m bywyd ac roeddwn yn ffodus i gael y cyfle i hyfforddi yn Ysgol Gelf Manceinion yn gynnar yn y saithdegau. Wedi symud i Eryri yn yr 80au dewisais ddyfrlliw fel y cyfrwng perffaith i ddarlunio ysblander tirwedd.

Symudais i Ruthun yn gynnar yn y 90au gan barhau i baentio tra hefyd yn cael gyrfa sydd yn fy moddhau wrth  ddysgu celf i oedolion. Fy menter ddiweddaraf yw fel hyfforddwr dyfrlliw ar gyfer Fred Olsen Cruises.

Rwyf wedi bod yn aelod o Gymdeithas Frenhinol Dyfrlliw Cymru ers dros ugain mlynedd.