Mike Laxton.

BYWGRAFFIAD

Astudiais Ddylunio yng Ngholeg Celf Canterbury a Choleg Goldsmiths, Llundain. Symudais i Gymru yn 2007 ac rwyf bellach yn byw yng Nghwm Rheidol, ger Aberystwyth, lle mae’r amgylchedd amrywiol, ynghyd â diddordeb arbennig yn  y môr, yn sail i lawer o’m gwaith.

Rwyf bob amser yn agored i syniadau newydd a defnydd o gyfryngau. Mae’r gwaith yn aml yn ymchwiliol ac yn ceisio ymestyn posibiliadau delwedd benodol.

Rwy’n arddangos arsylwad craff a bwriad er mwyn mynegi syniad o ddrama a dirgelwch ond gan adael lle i’r gwyliwr ddod o hyd i’w ymateb a’i gysylltiad personol ei hun.