Kim James Williams.

BYWGRAFFIAD

Fy man cychwyn bob amser yw darlunio. Bydd rhywbeth yn dal fy llygad:  gall fod yn unrhyw beth o’r cysgodion gyda’r nos ar ochr capel, i dennyn ci yn cerdded y promenâd. Mae fy amgylchoedd yng Ngorllewin Cymru yn ysbrydoliaeth ddiddiwedd, yn enwedig o amgylch fy nghartref ger harbwr Aberystwyth.

Mae fy lluniau inc yn ymwneud â threulio amser yn edrych, a bod yn y foment. Mae’r rhannau gwyn yr un mor bwysig â’r marciau inc a dyfrlliw, gan adael lle i’r gwyliwr gwblhau ei stori ei hun.

Gall paentiadau ddilyn o’r lluniadau. Rwy’n aml yn paentio ar ddarnau o bren neu fwrdd a ddarganfyddais; rwy’n hoffi’r wyneb di-sglein a sut mae’r siâp a’r graen yn awgrymu’r llun. Weithiau mae gludwaith yn darparu cyferbyniad neu fan cychwyn arall. Yn ogystal â’r broses o dynnu llun myfyrdodol mae gennyf ddiddordeb mewn archwilio syniadau o gysylltedd rhwng pobl a’u hamgylcheddau, a symleiddio tirweddau i’w hanfodion.

Astudiais Gelf Sylfaen yng Ngholeg Celf Caerfyrddin, B.A. (Anrh),  Celf Gain yn Ysgol Gelf Winchester a TAR,  ac yna M.A. Celf Gain ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.