Joanna Jones.

BYWGRAFFIAD

Un o Lansamlet, Abertawe ydw i yn wreiddiol. Derbyniais fy addysg yn Ysgol Lônlas ac Ysgol Gyfun Ystalyfera, cyn mynd ymlaen i astudio celf yn Abertawe a Chaerdydd. Bum yn athrawes gelf am ddeuddeng mlynedd ac yna yn 2017 dechreuais fel artist llawn amser. Er bod nifer o themâu i’m gwaith, maent i gyd yn seiliedig ar adeiladau a thopograffi de orllewin Cymru – yr arfordir, y pentrefi, y mynyddoedd a’r capeli, ardaloedd lle mae gennyf gysylltiad emosiynol â nhw. Mae gweld y golau yn chwarae ar y tirwedd yn fy nghyffroi’n greadigol. Rwy’n defnyddio paent acrylig, ac yn dechrau gydag astudiaethau o leoliad arbennig ond wrth i’r llun ddatblygu, mae’r defnydd o baent yn ffurfio ei naratif ei hunan.