Jan Gay.

BYWGRAFFIAD

Mae fy ysbrydoliaeth i baentio yn aml wedi cychwyn yng Nghymru. Roedd ‘Snowdon Horseshoe’ yn baentiad a ddatblygais o fraslun un prynhawn cymylog iawn, ychydig cyn i ddilyw gychwyn!  Ac yn wir ‘View from Grace’s window’ oedd golygfa hyfryd fy merch o bier Aberystwyth! Mae hi’n ddigon ffodus i fyw yn Aberystwyth a hi â’m cyflwynodd  i Oriel y Bont. Ar hyn o bryd rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu rhai paentiadau o aber yr afon Mawddach.

Rwyf bob amser wedi teimlo bod arsylwi yn sail i bopeth yr wyf yn ei greu, ond dros y blynyddoedd rwyf wedi bod eisiau datblygu mwy o’r gwrthrych. Mae elfennau haniaethol wedi dod yn arwyddocáol. Rwy’n anelu at hidlo hanfodion delwedd heb golli’r gwrthrych mewn gwirionedd. Gall hyn fod yn her gan ei bod yn aml yn ymddangos bod dadl rhwng manylder a symlrwydd, ond mae’n werth y frwydr.

Mae dysgu celf yn agwedd arall o’m gwaith. Rwy’n mwynhau rhannu fy angerdd am baentio, gan weithio gydag oedolion yn y gymuned a phobl ag ystyriaethau iechyd. Cefais radd B.A. yn Birmingham yn gynnar yn y 1990au, gan arbenigo mewn paentio, gyda rhywfaint o gerameg a gwneud printiadau. Cyn hynny, astudiais baentio a cherameg wrth gwblhau gradd B.Ed. yn Sussex. Rwy’n byw bellach yn Solihull yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.