Ian Phillips.

BYWGRAFFIAD

Mae fy mhroses argraffu heddiw yn cychwyn, fel y mae bob tro, gyda thaith gerdded a llyfr braslunio. Byddaf yn dilyn llwybrau unig dros fryniau gweigion, trwy draciau coedwigoedd troellog, neu ar hyd llwybrau ar ochr clogwyni, yn chwilio am liw, patrwm a gweadedd. Rwy’n edrych am gyfansoddiadau cwbl gyflawn yn y dirwedd. Y cyfan sy’n rhaid i mi ei wneud yw dod o hyd i’r lle iawn i sefyll, y cyfeiriad cywir i edrych iddo a dechrau darlunio. Yn ôl yn y stiwdio wedyn, mae’r gwaith yn cynnwys chwyddo neu ostwng y ddelwedd yn gymesur, ei thynnu allan a dechrau’r toriad.

Mae argraffu torlun leino yn ymwneud â phatrwm yn unig. Gall y bydd y ddelwedd yn dechrau fel sgribl mewn llyfr braslunio ond cyn gynted ag y byddwch chi’n gweithio ar y linoliwm mae’r broses yn ymwneud â chafnu a thorri i wneud marciau. Yna, mae’r marciau hyn yn creu llun trwy, er enghraifft, awgrym gweadedd craig, neu batrymau dŵr. Gobeithiaf wedyn adeiladu naws y dirwedd y cerddais drwyddi trwy’r patrymau a’r gweadeddau hyn.