Gareth Lloyd-Hughes.

BYWGRAFFIAD

Fe’m ganed ac fe’m magwyd ym Maentwrog ger Blaenau Ffestiniog yn 1952.

Mae’r pentref wedi ei amgylchynu mewn coedydd a thiroedd hudolus yn llawn chwedloniaeth Cymru, ac mae’r dyddiau cynnar a dreuliais yn crwydro’r tirwedd wedi aros gyda mi hyd heddiw.

Mae arlunio bob amser wedi bod yn rhan o’m bywyd ac rwyf wedi arddangos mewn gwahanol orielau. Ar ôl ymddeol o’r Llyfrgell Genedlaethol yn 2010 rwyf wedi gallu treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn arlunio tirlun a morlun Canolbarth Cymru.