Charlotte Baxter.

BYWGRAFFIAD

Mae cyfleu ymdeimlad o symud a bywyd yn arbennig o bwysig i mi ac mae’n un o’r rhesymau yr wyf yn cael fy nhynnu i’r arfordir. Mae’r llanw, y tywydd a’r tonnau’n darparu pwnc sy’n newid yn barhaus ac rwy’n mwynhau’r heriau o geisio dal yr eiliadau byrhoedlog hyn yn y dirwedd hardd hon.

Rwy’n gweithio’n bennaf gyda leino a thorlun pren gan fy mod yn mwynhau’r posibiliadau a’r heriau rwy’n eu hwynebu wrth weithio gyda’r dull hwn – yn fwyaf arbennig y canlyniadau anrhagweladwy y gellir eu cyflawni trwy adeiladu haenau, patrwm a gweadedd yn fy mhrintiadau.

Rwy’n creu fy mhrintiadau trwy gerfio dyluniad i mewn i leino neu floc pren gan ddefnyddio offer cerfio bach. Yna rwy’n incio’r bloc cerfiedig gan ddefnyddio rholer (brayer) ac yn trosglwyddo’r dyluniad i bapur gan ddefnyddio naill ai Albion neu wasg ysgythru. Gellir ychwanegu haenau trwy argraffu ar ben y print gwreiddiol gan ddefnyddio blociau ychwanegol (aml-floc) neu drwy dorri’r un bloc i ffwrdd ac yna argraffu gyda lliw gwahanol (dull lleihau).