Gareth Parry.

BYWGRAFFIAD

Cefais fy ngeni ym Mlaenau Ffestiniog ym 1951 a gadewais fy ardal enedigol yn y 1960au i astudio yng Ngholeg Celf Manceinion. Dychwelais adref yn fuan a gweithio yn y chwarel lechi am ychydig flynyddoedd, cyn codi’r brws paent yn broffesiynol i roi cynnig ar waith amrywiol gan gynnwys portreadau a bywyd llonydd.

Yn y blynyddoedd cynnar, comisiynau preifat oedd y mwyafrif o’m gwaith; fodd bynnag, ym 1980, newidiais gyfeiriad a dewis canolbwyntio ar arddangosfeydd, gan ddangos gwaith a oedd wedi fy ysbrydoli ac adlewyrchu fy nghariad ac angerdd am fy nghartref. Fe baentiais yn yr awyr agored am nifer o flynyddoedd gan fy mod yn credu mai hwn oedd yr unig ffordd i ddal y “peth go iawn” ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi gweithio o fy stiwdio gan ddefnyddio brasluniau a’m cof i ddatblygu a chreu delweddau.

Mae’r cynnwys, yn bennaf, yn ymwneud â phopeth Cymreig – pobl Cymru, tirwedd a morluniau Cymru. Mae fy morluniau a thirweddau yn crynhoi cariad tuag at fy Nghymru ac rwy’n ymdrechu i ddal elfennau llym, a gerwinder yr amgylchedd naturiol. Rwy’n defnyddio fy nghyllell balet i greu egni a golau er mwyn dangos rhyddid mynegiant.

Mae fy ngwaith yn cael ei ddal mewn casgliadau preifat a chyhoeddus yn y DU a thramor. Rwyf wedi arddangos yn llwyddiannus yn Llundain a Chymru ers blynyddoedd lawer ac fe’m hetholwyd yn aelod o’Academi Frenhinol Cambrian yn 2006. Roeddwn yn un o’r artistiaid cyntaf i ddangos fy ngwaith yn Oriel y Bont, Aberystwyth pan agorodd yr oriel yn 2002.